Holl gemau rygbi Cymru ar BBC tan 2018

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Cymru yn herio De Affrica, Yr Ariannin, Tonga ac Awstralia yn yr Hydref.

Bydd holl gemau tîm rygbi Cymru yn yr Hydref yn cael eu darlledu yn fyw ar sianeli deledu'r BBC.

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru eu bod wedi arwyddo cytundeb newydd a fydd yn sicrhau bod gemau prawf yn erbyn De Affrica, Yr Ariannin, Tonga ac Awstralia yn cael eu darlledu'n ecsgliwsif ar y BBC tan 2018.

Bydd y gemau hefyd yn cael eu dangos ar wasanaethau eraill y BBC, ac mae'r cytundeb yn golygu y gall yr undeb ddefnyddio'r lluniau.

Dywedodd yr undeb bod y cytundeb pedair blynedd yn cyfrannu'n fawr at y sefydlogrwydd ariannol.

"Arwyddocaol"

Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi dweud bod y cyhoeddiad yn un "arwyddocaol" i'r gêm yng Nghymru.

"Wrth i staff hyfforddi a chwaraewyr Cymru fu gyda Llewod Prydain ac Iwerddon ddychwelyd i wynebu gemau prawf yn erbyn De Affrica, Yr Ariannin, Tonga ac Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm yn yr hydref, mae'r cyhoeddiad heddiw yn arbennig o arwyddocaol i ddyfodol rygbi Cymru," meddai Roger Lewis.

"Mae gwerth sedd i wylio Cymru yn herio pedwar o dimau rygbi gorau'r byd mis Tachwedd wedi codi - ond nid y pris - oherwydd chwarae arwrol rhai fel Leigh Halfpenny, Sam Warburton ac Alun Wyn Jones yn Awstralia'r haf yma."

Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys gemau prawf unigol, ond ni fydd yn cynnwys gemau paratoadol cyn Cwpan Rygbi'r Byd yn 2015.

Mae'r cytundeb yn cadarnhau y bydd sylwebaeth radio yn Gymraeg a Saesneg ar gael i'w defnyddio gan y BBC, a chyfle i S4C ddangos y gemau rhyngwladol.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Mae BBC Cymru wedi bod wrth galon darlledu rygbi Cymru ers blynyddoedd - gartref ac yn rhyngwladol - ac rwyf wrth fy modd y bydd y cytundeb hwn yn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu profi drama a chyffro'r gornestau cyffrous yn erbyn timau gorau hemisffer y de."