Cadair dderw yn cynrychioli'r tirlun
- Cyhoeddwyd

Mae Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau wedi cael ei chyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn digwyddiad arbennig yn Arthog, Dolgellau.
Rhoddir y Gadair eleni am awdl neu gyfres o gerddi mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 250 llinell ar y thema 'Lleisiau'.
Y beirniaid yw Gerallt Lloyd Owen, Peredur Lynch a Myrddin ap Dafydd.
Dilwyn Jones, o Faerdy ger Corwen, sydd wedi cynllunio a chreu'r Gadair. Mae wedi cynllunio amryw o Gadeiriau'r Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd: "Rwy'n credu'n gryf bod angen i Gadair fod yn adlewyrchiad o ddalgylch yr Eisteddfod, yn ddathliad parhaol o'r ardal lle y cynhaliwyd y Brifwyl.
"Cadair o bren derw yw hon eleni, wedi'i ffurfio i gynrychioli tirlun naturiol Sir Ddinbych o'r môr i'r mynyddoedd. Mae'r breichiau sydd yn cofleidio cefn y Gadair yn awgrymu gwarchod y pethau traddodiadol sydd yn rhan annatod o'r sir. Mae coedyn arbennig y dderwen yn dangos haenau arbennig sydd eto yn nodweddiadol o dirlun y sir arbennig hon."
'Uchafbwynt'
Cyflwynir y Gadair a'r wobr ariannol gan Gerallt a Dewi Hughes, er cof am eu rhieni, John a Ceridwen Hughes, Uwchaled.
Meddai John Glyn Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2013:
"Mae derbyn y Gadair hon a ninnau o fewn wythnosau i'r Brifwyl yn un o uchafbwyntiau dros ddwy flynedd o waith i ddod â'r Eisteddfod Genedlaethol i Sir Ddinbych a'r Cyffiniau.
"Rydw i'n eithriadol o falch i fod yma i dderbyn y Gadair hardd hon gan y noddwyr eleni, a mawr yw ein diolch iddyn nhw a'r crefftwr, Dilwyn Jones, am eu haelioni, eu hysbrydoliaeth a'u gwaith caled ar y Gadair.
"'Lleisiau' oedd y thema eleni, ac rwy'n mawr obeithio y byddwn yn clywed miloedd o leisiau ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ar Faes yr Eisteddfod ymhen ychydig wythnosau.
"Rydym yn cyrraedd penllanw'r gwaith o baratoi a phenllanw'r prosiect cymunedol, ond gwn y bydd gwaddol pwysig yn cael ei adael gan y prosiect hwn ynghyd â'r Brifwyl ei hun.
"Mae nifer enfawr o weithgareddau wedi'u cynnal yn lleol gan ddod â chymunedau ynghyd, a chan roi cyfle i bobl gymdeithasu yn y Gymraeg.
"Wrth dderbyn y Gadair hon, rwy'n troi eto at thema'r awdl, ac yn gobeithio mai'r gwaddol mwyaf fydd nifer y 'Lleisiau' Cymraeg sydd i'w clywed ym mhob cornel o'r dalgylch yn sgil ymweliad yr Eisteddfod eleni.
"Rwy'n gobeithio y bydd llygaid Cymru gyfan ar y Maes, a'r Pafiliwn yn arbennig, ddydd Gwener 9 Awst, gan obeithio y bydd enillydd teilwng i Gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau."
Cynhelir Seremoni'r Cadeirio ddydd Gwener, 9 Awst, am 4.30yh.