Perfformiad da gan Dai Greene

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Dai Greene wedi cael tymor siomedig hyd yma

Mae'r athletwr Dai Greene wedi curo ei gyd Gymro Rhys Williams yn ras y 400m dros y clwydi ym Mhencampwriaethau Prydain.

Enillodd Greene, o Lanelli, mewn 48.66 eiliad.

Roedd y ddau wedi ennill eu rowndiau rhagbrofol yn Birmingham nos Wener, gyda Williams yn sicrhau'r amser cyflymaf.

Ag yntau yn bencampwr byd ar hyn o bryd, roedd Greene - aelod o Harriers Abertawe - eisoes wedi sicrhau ei le i amddiffyn y teitl ym Moscow'r mis nesaf.

Ond llwyddodd Williams i guro ei record ei hun gydag amser o 48.85 eiliad, yntau hefyd yn cael ei ystyried ar gyfer Pencampwriaethau'r Byd felly.

Roedd Greene yn cystadlu yn Birmingham mewn ymgais i wella ei berfformiad ar ôl tymor gwael hyd yma.

Roedd Williams wedi llwyddo i guro Greene ar yr un trac yn rasys y Diamond League ddechrau'r mis - yr unig aelod o dîm Prydain i wneud hynny mewn pum mlynedd.