Aelod o staff Prifysgol Bangor wedi marw ar ôl damwain

Ian Nicholls Image copyright Prifysgol Bangor
Image caption Bu farw Ian Nicholls yn yr ysbyty yn Stoke wedi'r digwyddiad ddydd Gwener

Mae technegydd o Brifysgol Bangor wedi cael ei ladd wedi digwyddiad yn ei weithdy.

Mae'n ymddangos fod Ian Nicholls, 51, wedi cael anaf angeuol i'w ben tra'n gweithio yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, ddydd Gwener diwetha'.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, cyn cael ei drosglwyddo mewn hofrennydd i uned arbenigol yn Ysbyty Stoke, ble bu farw'n ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor: "Mae staff Prifysgol Bangor wedi cael sioc ac wedi eu tristáu gan farwolaeth sydyn Ian Nicholls ddydd Gwener.

"Fel goruchwyliwr y gweithdy yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, roedd Ian yn hynod adnabyddus ac yn boblogaidd iawn ymysg ei gydweithwyr.

"Cafodd Ian anaf difrifol i'w ben tra yn y gwaith ddydd Gwener ac er iddo gael ei ruthro i Ysbyty Gwynedd a'i hedfan i'r ysbyty yn Stoke, bu farw'r noson honno.

"Mae'r Brifysgol yn meddwl am ac yn cydymdeimlo'n ddwys gyda'i deulu".

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad ac yn cynnal ymchwiliad.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.