Ymosodiad ar fenyw: arestio dyn yn Llanisien, Caerdydd

Cafodd dyn 32 oed ei arestio oherwydd ymosodiad ar fenyw 30 oed yn Llanisien, Caerdydd.

Dywedodd yr heddlu: "Cafodd y dyn ei arestio yn Trenchard Drive ychydig wedi 1pm.

"Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd cafodd heddlu arfog eu hanfon."

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans: "Roedd yr alwad am 12.18pm oherwydd bod ymosodiad ar fenyw yn Kimberley Terrace.

"Aed â hi i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd."

Chafodd neb arall ei anafu.