Troedyrhiw: Marwolaethau ddim yn amheus

Joanne Thomas a'i merch Harper
Image caption Cafodd corff Joanne Thomas a'i phlentyn Harper eu darganfod ar y 3ydd o Orffennaf

Dyw marwolaethau Joanne Thomas a'i babi Harper a gafodd ei darganfod mewn tŷ yn Nhroedyrhiw ger Merthyr Tudful ddim yn cael eu trin fel rhai amheus.

Cafodd y fam 27 oed a'i merch fach bedwar mis oed Harper ei darganfod ar y 3ydd o Orffennaf.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu eu bod wedi marw ers tro.

Roedd y profion post mortem yn amhendant ac mae swyddogion yn disgwyl canlyniadau profion pellach.

Mae swyddogion yn dal i apelio at unrhyw un a welodd Joanne Thomas ychydig wythnosau cyn y 3ydd o Orffennaf i gysylltu gyda nhw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu De Cymru ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.