Gwaith i 5,000: cynllun trechu tlodi Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunMae tua thraean o blant Cymru'n byw mewn tlodi

Cynnig gwaith a hyfforddiant i 5,000 sydd yn byw mewn cartrefi lle nad oes neb yn gweithio yw un o brif amcanion cynllun Llywodraeth Cymru.

Hwn yw un o dargedau taclo tlodi yng Nghymru ac mae'r llywodraeth yn dweud y byddan nhw'n rhoi "cymorth personol, dwys" i rai sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnodau hir.

Yn ôl y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher, byddan nhw'n lleihau nifer y bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed sydd ddim mewn gwaith neu addysg.

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn awyddus i weld llai o fwlch rhwng iechyd pobl sydd yn byw yn yr ardaloedd tlotaf a'r rhai mewn ardaloedd mwy llewyrchus yng Nghymru.

Cafodd y cynllun ei lansio fis Mehefin diwethaf ac roedd y llywodraeth wedi addo ei ddiweddaru ar ôl 12 mis.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod y ddogfen yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth i helpu'r rhai sydd yn dioddef fwyaf.

Tlodi plant

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ei hun i gael gwared â thlodi plant erbyn 2020 - targed uchelgeisiol ac fe ddywedodd y Comisiynydd Plant y flwyddyn ddiwethaf ei fod yn amau os bydd y targed yn cael ei gyflawni.

Ar ôl ystyried costau sy'n gysylltiedig efo tai, mae tua thraean o blant Cymru'n dod o gartrefi lle mae rhai'n byw mewn tlodi.

Mae ystadegau diweddaraf a ryddhawyd ym mis Mehefin yn dangos fod y ffigwr hon wedi codi o 31% i 33%.

Dyw'r ffigwr heb newid llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae plant yn cael eu dosbarthu fel rhai sy'n byw mewn tlodi cymharol os ydyn nhw'n byw mewn cartref lle mae'r incwm yn llai na 60% o'r incwm mwyaf cyffredin.

'Rhwystr'

Yn sgil ad-drefnu Cabinet Llywodraeth Cymru wedi i Leighton Andrews ymddiswyddo, cafodd Jeff Cuthbert ei benodi'n Weinidog Trechu Tlodi gyda Vaughan Gething yn cael ei benodi'n ddirprwy.

Dywedodd Mr Gething fod y cynllun tlodi yn ceisio mynd i'r afael â phroblem gyffredin sef mai'r bobl oedd angen cymorth fwyaf oedd y rhai lleiaf tebygol o'i dderbyn.

"Rydym yn gwybod mai'r rhwystr mwyaf arwyddocaol yw'r polisïau bwriadol sydd yn cael ei gweithredu gan Lywodraeth y DU," meddai.

"Ond yn hytrach na bod yn esgus, mae hynny'n rheswm ychwanegol i ni wneud popeth o fewn ein gallu.

"Allwn ni ddim caniatáu i'n cymunedau ni fod mewn tlodi sy' wedi ei wreiddio'n ddwfn."

Ymateb

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gymunedau, Mark Isherwood, mae'r cynllun "yn rhagor o eiriau cynnes am daclo tlodi" gan lywodraeth oedd wedi cyflawni ond ychydig wrth geisio cwrdd â'u targedau gwrth-dlodi mewn bron i ddegawd o lywodraethu.

Ychwanegodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfiawnder cymdeithasol, Peter Black: "Does dim angen dweud ein bod i gyd yn rhannu'r amcanion a nodir yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.

"Ond yr hyn sy'n bwysig yw'r canlyniadau fydd yn deillio o'r cynlluniau hyn."

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol