Ymgyrch i wella iechyd llygaid

Prawf llygaid
Image caption Bydd yr ymgyrch gan iechyd cyhoeddus yn digwydd tan ddiwedd Gorffennaf

Bydd ymgyrch iechyd cyhoeddus yn cychwyn ddydd Llun i geisio gwella iechyd llygaid pobl.

Fe fydd yr ymgyrch - 'Gofalwch am eich Golwg' - yn annog pobl i gymryd mwy o ofal o'u llygaid a bydd yn rhedeg mewn fferyllfeydd ar draws Cymru trwy gydol mis Gorffennaf.

Mae'r ymgyrch yn cael ei chydlynu gan bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Fferylliaeth Gymunedol Cymru ac elusen yr RNIB.

Mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i ymweld â'u fferyllfa leol i ganfod camau syml i osgoi colli eu golwg - rhywbeth sy'n effeithio ar oddeutu 100,000 o bobl yng Nghymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.