Cymru 7-bob-ochr yn colli
- Cyhoeddwyd

Mae ymgais Cymru i ddal eu gafael ar Gwpan 7-bob-ochr y Byd ar ben wedi iddyn nhw golli i Seland Newydd yn rownd yr wyth olaf o 26-10.
Roedd y Crysau Duon ar y blaen ar yr egwyl o 12-5 diolch i geisiau gan Gillies Kaka a Tomasi Cama, gyda Rhys Shellard yn ymateb i Gymru.
Fe wnaeth Bryce Heem a Kaka eto ymestyn mantias Seland Newydd cyn i Lee Williams ychwanegu ail gais hwyr i Gymru.
Yr unig gysur i Gymru oedd gorffen ar frig grŵp anodd oedd yn cynnwys Fiji, Tonga ac Wrwgwai, er mai hynny arweiniodd atyn nhw'n cwrdd â Seland Newydd yn rownd y chwarteri.
"Doedd e ddim i fod," meddai capten Cymru Lee Williams - yr unig aelod o'r tîm enillodd y Cwpan yn 2009.
"Mae'n siomedig iawn. Roedd y gêm yno i'w hennill, ond roedd ein camgymeriadau ni'n gostus."
Bydd Seland Newydd yn cwrdd â Fiji yn y rownd gynderfynol, gyda Lloegr yn herio Kenya yn y llall wedi i'r tîm o Affrica syfrdanu Ffrainc 24-19 yn rownd yr wyth olaf.
Straeon perthnasol
- 29 Mehefin 2013