Amheuaeth am ffitrwydd Warburton
- Cyhoeddwyd

Mae amheuaeth a fydd Sam Warburton yn holliach ar gyfer y prawf olaf yn Sydney wedi i gapten y Llewod orfod gadael y cae ym Melbourne ddydd Sadwrn.
Cafodd y blaenasgellwr anaf i linyn y gâr, ac mae wedi aros ym Melbourne am noson ychwanegol er mwyn canfod pa mor ddifrifol yw'r anaf.
Bydd yn ymuno â gweddill y garfan yn Noosa ddydd Llun.
Dywedodd Warburton nos Sadwrn: "Dyw'r physios ddim yn gwneud asesiad llawn tan 24-48 awr wedi'r gêm.
"Mae'n brifo ar y funud. Dydw i heb gael anaf fel hwn o'r blaen.
"Wrth gwrs fe hoffwn i arwain y tîm yn y trydydd prawf, ac fe fyddaf yn gwneud popeth y gallaf i wneud hynny."
Roedd Warburton eisoes wedi gadael y cae a bu'n gwylio o'r ochr wrth i Adam Ashley-Cooper sgorio'r cais hwyr i ennill y gêm i Awstralia.
Mewn diweddglo dramatig, methodd Leigh Halfpenny gyda chynnig at y pyst gyda chic ola'r gêm, ond roedd yr hyfforddwr Warren Gatland yn teimlo bod anaf Warburton wedi bod yn allweddol.
Dywedodd: "Roeddwn i'n meddwl bod Sam yn wych ar y cyrion, yn enwedig yn yr hanner cyntaf, a dyna oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm.
"Roedd hi'n golled fawr pan ddaeth e oddi ar y cae. Roedd Dan Lydiate wedi blino'n lan, ac fe fyddwn i mwy na thebyg wedi ei dynnu e bant a rhoi Tom Croft ymlaen yn ei le.
"Yn anffodus fe gafodd Sam yr anaf, ac fe newidiodd hynny'n momentwm rhy ychydig."
Er na lwyddodd y Llewod i ennill y gyfres yn Melbourne, roedd Warburton yn hyderus, a dywedodd:
"Mae'n siomedig wrh gwrs, ond rwy'n credu bydd y bois yn deffro yfory a sylweddol y gallwn ni ennill y gyfres o hyd, ac mae gennym bob cyfle i wneud hynny."