Donaldson yn brwydro
- Cyhoeddwyd

Mae Jamie Donaldson wedi cael trydedd rownd dda wrth iddo geisio dal ei afael ar Bencampwriaeth Golff Iwerddon ar gwrs Carton House yn Maynooth, Swydd Kildare.
Cafodd y golffiwr o Bontypridd rownd o 69 ddydd Sadwrn i'w adael saith ergyd yn well na'r safon, chwe ergyd y tu ôl i'r arweinydd Joost Luiten o'r Iseldiroedd.
Dros nos roedd Donaldson un ergyd yn well na Chymro arall Stephen Dodd, sydd hefyd wedi ennill Pencampwriaeth Agored Iwerddon yn 2005, ond fe gafodd Dodd rownd siomedig o 73 ddydd Sadwrn.
Ni lwyddodd y tri Chymro arall yn y gystadleuaeth, Rhys Davies, Philip Price a'r golffiwr amatur Rhys Pugh, i gymhwyso ar gyfer y penwythnos.
Pencampwriaeth Agored Iwerddon: Cwrs Carton House, Maynooth, Swydd Kildare :-
1. Joost Luiten (Iseldiroedd) = -13
2. Pablo Larrazabal (Sbaen) = -12
3. Robert Rock (Lloegr) = -11
Manylion y Cymry :-
=11. Jamie Donaldson = -7
=42. Stephen Dodd = -2
Straeon perthnasol
- 11 Ebrill 2013
- 20 Ionawr 2013
- 25 Hydref 2012
- 1 Gorffennaf 2012