Carlin yn torri record wrth ennill

Jazz Carlin
Image caption Bydd Jazz Carlin yn gobeithio am aur ym mhencampwriaeth y byd yn Barcelona ymhen pum wythnos

Mae'r nofiwr o Abertawe, Jazz Carlin, wedi torri record Cymru dros 800m ym Mhencampwriaeth Prydain yn Sheffield.

Enillodd Carlin y gystadleuaeth mewn 8:18:58 - dros chwe eiliad yn well na'i hamser gorau erioed ac amser fyddai wedi ennill medal arian iddi yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Ei hamser yn y ras dull rhydd oedd y cyflymaf yn y byd eleni.

Fe gipiodd Jazz Carlin fedal arian yn y Gemau Gymanwlad yn Delhi yn 2010, ond gyda phencampwriaethau'r byd bum wythnos i ffwrdd mae'n gobeithio mynd un yn well eleni yn Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Carlin: "Roeddwn i'n disgwyl ras go lew am fy mod wedi bod yn gweithio'n galed, ond mae tynnu chwe eiliad oddi ar fy amser gorau yn anhygoel - allwn i ddim fod wedi disgwyl gwell."

Gyda Rebecca Adlington wedi ymddeol o'r gamp erbyn hyn, mae Carlin yn gweld ei chyfle ym mhencampwriaeth y byd.

Ond gwahanol iawn oedd teimladau Jemma Lowe yn Sheffield.

Mae hi'n un arall fydd yn nhîm nofio Cymru yn Glasgow, ond er iddi ennill y ras 200m pili-pala doedd ei hamser (2:09:25) ddim yn ddigon cyflym i gymhwyso ar gyfer pencampwriaeth y byd yn Barcelona.

Trwch blewyn oedd ynddi - roedd Lowe 0.09 eiliad y tu allan i'r amser cymhwyso.

Fe fydd ganddi gyfle arall i gyrraedd yno yn y ras 100m ddydd Gwener.

Yn rasys y dynion llwyddodd Ieuan Lloyd i gyrraedd rownd derfynol y 200m dull rhydd. Lloyd oedd y trydydd cyflymaf gydag amser o 1:48:37.

Straeon perthnasol