Daeargryn arall yn y gogledd

map y daeargryn
Image caption Map o ardal y daeargryn

Fe darodd daeargryn oedd yn mesur 2.8 ar raddfa Richter yn y gogledd nos Fercher - yr ail yn yr un ardal o fewn ychydig wythnosau.

Canolbwynt y daeargryn oedd arfordir Llŷn am ychydig cyn hanner nos, medd y British Geological Survey (BGS).

Bu daeargryn yn mesur 3.8 yn yr un lle fis diwethaf.

Ddydd Mercher hefyd cafodd daeargryn bach yn mesur 0.9 ei fesur ym Mlaenau Gwent.

Dywedodd Elfed Morgan o Efailnewydd ger Pwllheli bod ei ffrindiau ar wefan Facebook wedi teimlo daeargryn nos Fercher.

"Fe glywais i'r swn a meddwl bod fy mab wedi codi o'i wely.

"Roeddwn i ar y cyfrifiadur ar y pryd, ac fe glywais i'r llawr yn gwegian ond pan es i fyny roedd o'n dal i gysgu.

"Pan edrychais ar Facebook, roedd pawb ym Mhen Llŷn wedi teimlo'r peth."

Dywedodd bod rhai o'i ffrindiau mor bell i ffwrdd â Llanberis wedi teimlo'r peth.

Dywedodd BGS bod y daeargryn wedi digwydd bum milltir o dan ddaear.

Straeon perthnasol