Y Seintiau'n herio Legia

Uwchgynghrair Cymru Image copyright Not Specified

Bydd pencampwyr Uwchgynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd, yn herio Legia Warsaw yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Roedd Legia'n bencampwyr yng Ngwlad Pwyl am y nawfed tro.

Bydd y cymal cyntaf yng Nghymru ar Orffennaf 16 neu 17 a'r ail gymal wythnos wedyn.

Trechu

Yng Nghynghrair Europa bydd dau dîm o Gymru'n wynebu timau o Latfia yn y rownd gynta' ragbrofol.

Bydd enillwyr Cwpan Cymru Prestatyn yn chwarae yn erbyn Metalurgs tra bydd Airbus yn erbyn Ventspils sy' wedi trechu timau Cymreig ddwywaith yn Ewrop.

Bydd Y Bala yn herio Levadia Tallinn o Estonia.

Ar Orffennaf 4 gartre' y bydd y cymalau cynta' a'r ail wythnos wedyn.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.