Galw am statws uwch i addysg gorfforol

Tanni Grey-Thompson
Image caption Y Farwnes Tanni Grey-Thompson yw cadeirydd y grŵp

Dylai addysg gorfforol gael yr un statws â mathemateg, Cymraeg, Saesneg a gwyddoniaeth yn y cwricwlwm, yn ôl grŵp sy'n adrodd i Lywodraeth Cymru.

Yr athletwraig Tanni Grey Thompson sy'n cadeirio'r grŵp oedd wedi cael ei gomisiynu gan y llywodraeth i ystyried darpariaeth chwaraeon mewn ysgolion.

Ond mae undeb athrawon yn poeni y gallai hyn gael effaith wael ar statws pynciau craidd eraill.

Cymru fyddai'r wlad gyntaf i roi statws pwnc craidd i addysg gorfforol.

Mae'r adroddiad yn dweud: "O ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud llythrennedd corfforol yr un mor bwysig i ddatblygiad a darllen ac ysgrifennu, roedd y Grŵp yn teimlo mai newid statws addysg gorfforol yw'r unig ffordd gredadwy a diogel o sicrhau hyn."

Byddai'n gam mentrus ond pwysig, yn ôl y grŵp.

Mae traean o ieuenctid Cymru yn ordew, sefyllfa sy'n costio dros £70 miliwn i'r gwasanaeth iechyd bob blwyddyn.

Pwnc craidd

Y pynciau craidd ar hyn o bryd yw Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth - pwnc sylfaen yw addysg gorfforol ar hyn o bryd.

Fel pwnc craidd, byddai'n rhaid i ysgolion roi mwy o flaenoriaeth iddo a sicrhau mwy o ddarpariaeth ar ei gyfer.

Oblygiadau hyn fyddai:

  • Athrawon yn gorfod bod yn gymwys i ddysgu'r pwnc wedi iddynt orffen eu hyfforddiant;
  • Athrawon arbenigol yn gweithio gydag ysgolion er mwyn sicrhau darpariaeth o safon uchel;
  • Adolygiadau trwyadl o ddarpariaeth addysg gorfforol mewn ysgolion, gan gonsortia a gan Estyn;
  • Mesur cynnydd yn rheolaidd.

Er bod undebau athrawon yn cefnogi'r syniad, maent yn dweud y byddai gormod o bynciau craidd ar y cwricwlwm yn tanseilio'u pwysigrwydd.

Dywedodd Dr Philip Dixon, cyfarwyddwr ATL Cymru: "Mae'n rhaid i ni benderfynu pa graidd bychan rydym ei eisiau.

"Rydym yn gwybod ein bod ni eisiau llythrennedd a rhifedd yna. Efallai ein bod ni eisiau addysg gorfforol fewn yno hefyd, ond mae hynny i'r llywodraeth benderfynu. Mae'n rhaid cadw'r craidd yn un bach iawn neu fel arall fe welwn ni graidd nad yw'n graidd. "

'Cyfraniad pwysig'

Yn ymateb i gyhoeddiad yr adroddiad, dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews: "Rydym yn credu'n gryf yn yr effaith gadarnhaol y gall gweithgaredd corfforol ei gael ar bobl a chenedl Cymru ac rwy'n benderfynol o sicrhau bod chwaraeon yn parhau i wneud cyfraniad pwysig i fywyd y wlad.

"Comisiynwyd yr adroddiad hwn er mwyn ystyried sut y gall ein hysgolion gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yn ein plant a phobl ifanc. Hoffwn ddiolch i'r Farwnes Tanni Grey-Thompson a'i thîm am yr adroddiad trylwyr a diddorol.

"Byddwn yn awr yn cymryd amser i ystyried yr argymhelliad yng nghyd-destun adolygiad ehangach y cwricwlwm cenedlaethol ac asesu.

Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, John Griffiths: "Mae gennym hanes balch o chwaraeon yng Nghymru. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn rhan annatod o fywydau pobl ifanc ac yn datblygu llawer o'r sgiliau sylfaenol sy'n angenrheidiol i blentyn lwyddo.

"Mae'n gwella iechyd a lles, yn helpu gydag adeiladu tîm, gwneud ffrindiau ac yn bwysicaf oll mae chwaraeon yn hwyl.

"Rydym wedi ymrwymo i ehangu darpariaeth ac annog mwy i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol oherwydd ry'n ni'n deall y manteision iechyd sy'n dod yn sgil gwneud ymarfer corff fel rhan o fywyd bob dydd pawb.

"Hoffwn ddiolch i'r Farwnes Tanni Grey-Thompson a'i thîm am yr adroddiad hwn."

Straeon perthnasol