Morgannwg yn cael crasfa

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC
Image caption Doedd y sefyllfa ddim yn rhy dda i Forgannwg erbyn amser cinio'r ail ddiwrnod

Mae Morgannwg wedi cael crasfa yn erbyn Sir Gaerwrangon yn y bencampwriaeth.

Enillodd y tîm cartref o wyth wiced er gwaethaf ymdrechion Morgannwg i frwydro nôl.

O leiaf fe roddon nhw ryw fath o her i Gaerwrangon wrth ychwanegu 78 rhediad i'w cyfanswm dros nos o 200-7.

Gobaith y tîm Cymreig oedd y byddai glaw yn rhoi diwedd ar y chwarae ond chymrodd hi ddim llawer o amser i fatwyr Caerwrangon eu targed o 51.

Sgôr ar ddiwedd y chwarae:

Sir Gaerwrangon (batiad cyntaf) - 505 am 7 (138.0 pelawd)

Morgannwg (batiad cyntaf) - 277 i gyd allan

Morgannwg (ail fatiad) - 278 i gyd allan

Sir Gaerwrangon (ail fatiad) - 51 am 2 i ennill