Dyn yn marw ar yr hewl yn y Rhondda

Cyhoeddwyd

Mae dyn 75 oed wedi marw yn dilyn trawiad rhwng tri car yn y Rhondda.

Cafodd rhan o'r A4119 yn Nhonypandy ei chau am bedair awr yn dilyn y digwyddiad am 9:10pm ddydd Mercher.

Yn ôl yr heddlu roedd car Peugeot 3008 yn teithio tua'r gogledd ar adeg y trawiad - Ford Focus a Vauxhall Merica oedd y ceir eraill.

Mae swyddogion yn ymchwilio ac yn gwneud apêl am dystion i'r digwyddiad siarad hefo nhw.

Meddai Heddlu De Cymru mewn datganiad: "Mae'r heddlu hefyd yn gofyn i unrhyw dystion a allai fod wedi gweld y cerbydau yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad gysylltu â nhw os nad ydynt wedi gwneud hynny eto..

"Roedd y ffordd ar gau am tua phedair awr tra bod yr ymchwiliadau cychwynnol yn cael eu cynnal."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am droseddau ffonio Heddlu De Cymru neu Heddlu Gwent ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol