Teyrngedau i "athrylith" y Groggs

John Hughes
Image caption Teyrngedau yn cael eu rhoi i John Hughes, y crochenydd greodd y Groggs

Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i'r dyn greodd grochenwaith unigryw y Groggs.

Bu farw John Hughes o Bontypridd yn 79 oed ar ol gwaeledd hir. Roedd e'n enwog am gerfio dehongliadau cartŵn o sêr rygbi Cymru fel Gareth Edwards a Phil Bennett yn ogystal ac enwogion eraill.

Roedd Mr Hughes yn gefnogwr rygbi brwdfrydig ac yn un o gefnogwyr pybur ei dîm lleol.

Mae clwb rygbi Pontypridd wedi cyhoeddi teyrnged i Mr Hughes ar eu gwefan:

"Athrylith, gŵr bonheddig a chymeriad - fe fydd e'n cael ei golli'n fawr"