Golff Cymru'n 'dirywio' - Woosnam
- Cyhoeddwyd

Mae Ian Woosnam wedi honni bod golff yng Nghymru wedi dirywio ers i gystadleuaeth Cwpan Ryder 2010 gael ei chynnal yng Nghasnewydd.
Dywedodd Pencampwr Meistri America yn 1991 ei bod yn bryderus am y diffyg talent o Gymru ar gylchdaith Ewrop.
Dywedodd: "Fe fyddai'n braf cael cefnogaeth gan y llywodraeth er mwyn cael golffwyr ifanc i ennill un o'r prif gystadlaethau."
Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno'n llwyr gan ddweud eu bod yn parhau i fuddsoddi yn y gêm.
Dau ar y gylchdaith
Roedd Woosnam, 55 oed, yn amlinellu ei ddymuniad wrth i Bencampwriaeth Golffwyr Hŷn Agored Cymru ddechrau ym Mhorthcawl.
Dim ond dau Gymro sydd ar gylchdaith Ewrop yn gyson y tymor hwn - Jamie Donaldson a Phillip Price - a Donaldson yw'r unig Gymro yn y 100 uchaf ar restr detholion y byd.
Yn 2010 fe gollodd Rhys Davies a Bradley Dredge eu hawl i chwarae ar y gylchdaith yn gyson ac mae'n rhaid iddyn nhw gymhwyso am bob cystadleuaeth yn unigol.
"Mewn dyddiau a fu roedd gennym bump, chwech neu saith o chwaraewyr ar y gylchdaith," meddai Woosnam.
"Mae'n dirywio felly mae angen rhyw fath i isadeiledd er mwyn cael chwaraewyr i chwarae.
"Os ydym am ennill y prif gystadlaethau rhaid i ni edrych ar rhywle fel Sweden am arweiniad."
'Dim penawdau'
Mae gwaddol Cwpan Ryder wedi gweld 200,000 o bobl yng Nghymru yn cael y cyfle i chwarae golff a 38 o adnoddau newydd ar draws Cymru.
Dywedodd Hannah Fitzpatrick, cyfarwyddwr datblygu Undeb Golff Cymru: "Efallai nad yw'r effaith yn y penawdau o gymharu â sêr Cwpan Ryder, ond pe na bai'r sêr yna wedi cystadlu yng Nghasnewydd ni fyddai'r newid yma wedi digwydd.
"Daeth cynnal Cwpan Ryder â newid anferth i golff yng Nghymru ac fe fydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i gefnogi cystadlaethau mawr gan nodi bod Pencampwriaeth Hŷn Agored Prydain yn dod i Borthcawl yn 2014.
Ar lefel amatur mae Rhys Pugh wedi ennill pencampwriaeth amatur Ewrop yn 2012 a Tim Harry, 15 oed, yw enillydd ieuengaf cystadleuaeth Duncan Putter.
Enillodd Amy Boulden Bencampwriaeth Agored Merched Cymru a Chloe Williams fedal efydd yn y Gemau Olympaidd Ieuenctid yn Awstralia.
'Drud iawn'
Ond y cam nesaf syn pryderu Woosnam.
"Mae'n ddrud iawn i chwarae ar lefel broffesiynol," meddai.
"Os nad yw'r gefnogaeth yna i'r chwaraewyr ifanc, maen nhw'n mynd i golli diddordeb.
"Roeddwn i'n arfer gyrru o gwmpas mewn carafán, ond bellach maen nhw'n hedfan o gwmpas y byd. Mae angen tua £3,000 bob wythnos i chwarae golff.
"Rwy'n nabod bechgyn sydd wedi gorfod rhoi'r gorau iddi am nad oes ganddyn nhw'r arian i gystadlu."