Henson yn arwyddo i glwb Caerfaddon

Gavin Henson Image copyright Getty Images
Image caption Mae Gavin Henson wedi ennill 33 o gapiau i Gymru

Mae'r chwaraewyr rygbi Gavin Henson wedi arwyddo gyda thîm Caerfaddon.

Bydd y dyn 31 oed yn chwarae fel canolwr, maswr a chefnwr.

Mae yna drafodaethau hir wedi bod rhyngddo ef a'r clwb.

Dyn 'uchelgeisiol'

Dywedodd prif hyfforddwr y clwb Gary Gold: "Rydyn ni yn gwybod beth yw rhinweddau Gavin ac rydyn ni wedi ei weld e yn gweithio yn galed iawn ar gyfer ei dîm ac yn perfformio ar lefel uchel y tymor diwethaf.

"Mae e dal yn ddyn uchelgeisiol iawn ac mae'r rhagolwg y bydd yn chwarae yn y Rec yn un cyffroes iawn. Rydyn ni yn edrych ymlaen at yr adeg pan fydd yn dechrau gyda ni."

Mae Gavin Henson wedi ennill 33 o gapiau dros Gymru ac fe ddaeth yn chwaraewr disglair wrth chwarae gyda Y Gweilch.

Ers hynny mae wedi chwarae gyda thimau Saracens, Toulon, Y Gleision ac yn 2012 ymunodd gyda Chymry Llundain.

Ond dim ond 11 o gemau gafodd o gyda nhw oherwydd iddo gael anaf.

Mae gan y chwaraewyr rygbi broffil uchel ar ôl iddo gymryd rhan mewn sawl rhaglen realaeth ac mae hefyd wedi bod yn y papurau yn dilyn camymddygiad i ffwrdd o'r cae.

Lefel uchaf

Dywedodd Gavin Henson: "Dw i wrth fy modd fy mod yn ymuno gyda chlwb Caerfaddon yr haf hwn a dw i'n edrych ymlaen at fod yn rhan o sgwad sydd yn ymddangos fel un gyffroes.

"Dw i dal eisiau chwarae ar y lefel uchaf ac mae Caerfaddon yn glwb mawr gyda chynlluniau mawr. Dw i'n gwybod yr hyn sydd yn ddisgwyliedig o honnai a dw i'n edrych ymlaen at ddechrau."

Straeon perthnasol