Sir Benfro: Menyw ifanc ar goll

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Mae Heddlu Dyfed Powys yn chwilio am fenyw 20 oed sydd ar goll yn sir Benfro

Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn am help y cyhoedd i ddod o hyd i fenyw ifanc 20 oed.

Dyw hi ddim wedi cael ei gweld ers tua 22:30pm nos Wener yn ardal Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Mae'r heddlu yn dweud ei bod hi ychydig dros 5 troedfedd o daldra, yn denau gyda gwallt lliw ore. Roedd ei gwallt hyd ei hysgwydd ar un ochr ac wedi ei eillio yr ochr arall.

Roedd hi'n gwisgo legins du, siwmper liwgar a thop gwyrdd mewn steil filitaraidd. Roedd ganddi hi fag llaw hefyd.

Mae'r heddlu yn Hwlffordd yn gofyn i unrhywyn sydd wedi ei gweld i gysylltu gyda nhw ar 101.