Llewod: Jenkins i ddod adref
- Cyhoeddwyd

Taith y Llewod ar ben i Gethin Jenkins
Bydd prop Cymru Gethin Jenkins yn dychwelyd adre o daith y Llewod gan nad yw e wedi gwella o anaf i'w goes.
Fe fethodd e brawf ffitrwydd cyn y gêm yn erbyn Queensland Reds ac fe fydd e nawr yn teithio adref ddydd Sul.
Mae prop Iwerddon Cian Healy hefyd yn ffarwelio gyda Awstralia ar ôl iddo gael anaf yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Western Force yn Perth ddydd Mercher.