'Dim dadl' o blaid Morglawdd Hafren
- Cyhoeddwyd

Ni ddylai cynlluniau am forglawdd ar draws Môr Hafren fynd ymlaen yn eu ffurf bresennol, yn ôl pwyllgor o Aelodau Seneddol.
Dywedodd Pwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan nad oedd y cwmni y tu cefn i'r fenter wedi llwyddo i ddadlau eu hachos y byddai'r datblygiad yn fuddiol i'r economi nac i'r amgylchedd.
Mae cefnogwyr y cynllun wedi dweud y gallai'r morglawdd gynhyrchu 5% o anghenion trydan y DU.
Dywedodd Hafren Power bod barn yr ASau yn "rhwystredig ac anghynorthwyol" a bod gan y cwmni fwy o waith i wneud.
Mae'r cwmni am godi morglawdd 11 milltir o hyd rhwng Trwyn Larnog ger Penarth ym Mro Morgannwg a Brean yn ymyl Weston-super-Mare yng Ngwlad yr Haf.
'Angen tystiolaeth'
Mewn adroddiad mae'r pwyllgor seneddol wedi beirniadu "diffyg gwybodaeth a diffyg canfyddiedig o dryloywder" am y cynllun.
Nid yw'r ddadl dros y morglawdd wedi ei phrofi, meddai, ac nid yw Hafren Power eto "wedi darparu tystiolaeth gadarn ac annibynnol o ddichonoldeb economaidd, amgylchedd a thechnolegol y cynllun", meddai'r adroddiad.
Rhybuddiwyd yr ASau am y posibilrwydd o golli swyddi mewn porthladdoedd gerllaw, ac fe ddaethon nhw i'r casgliad nad oedd y cynllun yn debyg o gwrdd â thargedau ynni adnewyddol.
Roedd grwpiau amgylcheddol wedi rhybuddio am yr effaith ar yr amgylchedd yn lleol ac ar gynefinoedd bywyd gwyllt - dywedodd yr adroddiad nad oedd y cwmni "wedi goresgyn" y pryderon yma.
Dywedodd y pwyllgor y dylai'r llywodraeth barhau i fod yn agored i gynllun yn yr Hafren, ond ychwanegodd bod angen "llawer mwy o dystiolaeth a manylion" cyn y gallai wneud penderfyniad gwybodus am gynllun Hafren Power.
'Mwy o dystiolaeth'
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Tim Yeo: "Fe ddaeth y glir yn ystod yr ymchwiliad bod angen mwy o dystiolaeth gadarn a manwl am gynllun Hafren Power.
"Mae ein hymchwiliad wedi dod â mwy o wybodaeth at sylw'r cyhoedd ac wedi mynd â'r drafodaeth ymlaen, ond ni allwn argymell cynllun Hafren Power fel y cafodd ei gyflwyno i ni."
Wrth ymateb dywedodd Prif Weithredwr Hafren Power Tony Prior: "Mae'r adroddiad yn rhwystredig ac anghynorthwyol - rydym yn gwybod bod mwy o waith gennym i'w wneud ac fe wnawn ni hynny.
"Mae'r llywodraeth eisoes wedi dweud wrthym nad ydyn nhw yn erbyn y morglawdd, ac rydym yn benderfynol o bwyso ar weinidogion a swyddogion i drafod yn llawn gyda ni.
'Modd datrys'
"Rydym yn credu bod modd datrys y materion amgylcheddol ac economaidd gyda phawb yn gweithio gyda'i gilydd."
Mae cefnogwyr y cynllun yn cynnwys cyn Ysgrifennydd Cymru Peter Hain a adawodd gabinet yr wrthblaid er mwyn dadlau achos y morglawdd.
Mae porthladd Bryste wedi croesawu'r adroddiad gan ddweud bod ASau wedi "lladd y cynllun morglawdd".
Roedd y cwmni wedi dweud yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor y byddai'r morglawdd yn ddrwg i'w busnes gan y byddai'n golygu colli dau fetr o ddyfnder yn y porthladd gan gyfyngu ar eu gallu i dderbyn llongau mawrion.
Straeon perthnasol
- 9 Mai 2013
- 11 Ebrill 2013
- 28 Chwefror 2013
- 17 Chwefror 2013
- 10 Ionawr 2013
- 9 Ionawr 2013