Talcen caled i Forgannwg

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Ar ôl i fatwyr Morgannwg osod targed campus i'r tîm cartref ar ail ddiwrnod y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd ym Mryste, daeth dim llwyddiant i'r bowlwyr.

Dechreuodd yr ymwelwyr y bore gyda chyfanswm ar 318, a Murray Goodwin ar 96 h.f.a., ac fe lwyddodd Morgannwg i ychwanegu'n sylweddol at y sgôr.

Cyrrhaeddodd Goodwin ei gant cyn iddo golli ei wiced i fowlio Craig Miles ond roedd tor-calon i'r capten Mark Wallace pan gipiodd David Payne ei wiced ag yntau wedi sgorio 94.

Cafodd y dorf yng Nghaerloyw wledd o ergydion i'r ffin wrth i Michael Hogan daro 51 cyflym iawn oedd yn cynnwys wyth 4 ac un 6, a phan daeth batiad cyntaf Morgannwg i ben roedden nhw wedi llwyddo i osod nod o 448.

Ond yna fe ddangosodd batwyr Sir Gaerloyw bod y llain yn un caredig i'r batwyr.

Fe lwyddodd Gareth Roderick a Michael Klinger agor gyda phatneriaeth o 79 cyn i Michael Hogan gael unig lwyddiant y diwrnod i fowlwyr Morgannwg trwy gipio wiced Roderick.

Ond wedyn fe ddaeth Dan Housego i'r sgwâr cyn creu partneriaeth o gant gyda Klinger.

Erbyn diwedd y chwarae roedd Sir Gaerloyw wedi cyrraedd 179 am un wiced wrth ateb cyfanswm Morgannwg.

Pencampwriaeth y Siroedd; Adran 2 - Sir Gaerloyw v.Morgannwg; Caerloyw:-

Sgôr diweddaraf (diwedd ail ddiwrnod)

Morgannwg (batiad cyntaf)= 448 - Allenby 105, Goodwin 108, Wallace 94, Hogan 51

Sir Gaerloyw (batiad cyntaf) = 179 am 1 wiced (67 pelawd)