Craffu ar gynlluniau cludiant cyngor Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae pwyllgor craffu'n trafod penderfyniad cyngor i gael gwared ar wasanaethau bws am ddim i rai disgyblion ysgolion ffydd.
Roedd Cyngor Sir y Fflint wedi dweud y byddai yn rhaid i blant a phobl ifanc ddangos tystiolaeth o'u ffydd, fel tystysgrif bedydd er mwyn medru teithio am ddim.
Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru, byddai nifer o deuluoedd dan anfantais petai'r polisi'n newid yn y sir.
Ond dywedodd y cyngor y gallai diddymu'r cyllid dewisol arbed hyd at £100,000 y flwyddyn.
Does gan y pwyllgor craffu ar addysg gydol oes ddim grym i wrthdroi'r penderfyniad ond gallan nhw ddweud wrth y cabinet beth yw eu safbwynt.
Bydd y drefn newydd o godi tâl ar rai disgyblion yn dechrau ym mis Medi 2014.
'Anfanteisiol'
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi beirniadu'r cynlluniau, gan ddweud y byddai newid polisi'r sir yn anfanteisiol i rai teuluoedd.
Mae newidiadau eraill i drafnidaeth ysgol yn cynnwys codi ffïoedd newydd i deithwyr sydd dros 16 oed.
Maen nhw hefyd yn ystyried rhoi'r gorau i ddarparu cludiant i fyfyrwyr sy'n teithio i Sir Caer neu Sir Gaerhirfryn i astudio, gan nodi mai ond safleoedd lleol fydd yn gymwys ar gyfer cyllid trafnidiaeth.