Heineken: Yr enwau o'r het

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Getty Images
disgrifiad o’r llunToulon yn dathlu ennill Cwpan Heineken eleni

Er mai newydd ddechrau mae taith haf y Llewod, mae rhanbarthau rygbi Cymru eisoes yn gwybod pwy fyddan nhw'n wynebu yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf.

Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het mewn seremoni yn Nulyn ddydd Mercher, a does yr un o ranbarthau Cymru wedi cael eu gosod mewn grŵp hawdd.

Er hynny mae'n debyg mai'r Gweilch fydd â'r dasg anoddaf i aros yn y gystadleuaeth.

Fe fyddan nhw yng Ngrŵp 1 gyda phencampwyr 2011 a deiliaid Cwpan Her Amlin, Leinster, Pencampwyr Ffrainc, Castres a chlwb newydd George North, Northampton.

Yng ngrŵp 2 fydd y Gleision gyda Glasgow, Caerwysg a'r pencampwyr presennol o Toulon.

Enillodd Toulon y rownd derfynol eleni yn erbyn Clermont Auvergne, ac fe fyddan nhw'n un o wrthwynebwyr y Scarlets ynghyd â'r Harlequins a Racing Metro.

Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het hefyd ar gyfer Cwpan Her Amlin y tymor nesaf, gyda'r Dreigiau ymysg yr ail ddetholion.

Fe fyddan nhw'n wynebu Caerfaddon, Bordeaux-Begles a Rugby Mogliano o'r Eidal.