Taro a ffoi: Dyn yn cael ei ddedfrydu
- Cyhoeddwyd

Mae dyn a gyfaddefodd iddo daro sawl person lawr yng Nghaerdydd y llynedd, gan ladd mam i dri o blant, yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Plediodd Matthew Tvrdon, 31, heb gyfeiriad penodol, yn euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll a saith cyhuddiad o geisio llofruddio.
Bu farw Karina Menzies, 31, a chafodd 13 o bobl - gan gynnwys saith o blant - eu hanafu mewn pum digwyddiad ar wahan yn y brifddinas ym mis Hydref y llynedd.
Mae Tvrdon yn ymddangos yn y llys drwy gyfrwng fideo.
Mae'r diffynnydd yn honni ei fod yn dioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd.
Roedd Ms Menzies yn cerdded wrth ymyl gorsaf dân Trelái pan gafodd ei lladd.
Roedd Tvrdon wedi pledio'n euog i wyth cyhuddiad yn y gwrandawiad llys fis diwethaf.
Ond fe blediodd yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth a chwe chyhuddiad arall o geisio llofruddio.
Yn ystod y gwrandawiad blaenorol, dywedodd erlynwyr y bydden nhw'n ymgynghori â theuluoedd y dioddefwyr cyn penderfynu a fydden nhw'n parhau ag achos llofruddiaeth.
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, mae'r BBC ar ddeall fod y penderfyniad wedi'i wneud i beidio ag erlyn Tvrdon ar gyhuddiad o lofruddio Ms Menzies, ond i dderbyn ple euog am ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll
Straeon perthnasol
- 3 Mehefin 2013
- 22 Hydref 2012