Dyn wedi marw yn dilyn ymosodiad

Mae dyn wedi marw yn dilyn ymosodiad yng Nghasnewydd.

Cafodd Barry Thomas, 45 oed o ardal Betws ei daro yn anymwybodol nos Sul ar ffordd Methuen toc wedi 8.30pm.

Mae dau ddyn wedi ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac wedi eu cadw yn y ddalfa.

Mae un yn 19 oed a'r llall yn 46 oed.

Dywedodd yr heddlu bod ymchwiliadau yn parhau er mwyn gwybod union amgylchiadau'r digwyddiad.

Maent hefyd yn apelio i unrhyw un oedd yn yr ardal nos Sul neu sydd gydag unrhyw wybodaeth i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.