Ceisio barn am fuddsoddi £2bn

Gweithwyr Dŵr Cymru
Image caption Mae bwriad i osod 400 o gilometrau o bibellau newydd yn lle hen rai

Mae Dŵr Cymru yn gofyn am farn cwsmeriaid oherwydd bwriad i fuddsoddi £2 biliwn ar wasanaethau dŵr a charthffosiaeth rhwng 2015 a 2021.

Yn y Senedd ym Mae Caerdydd mae'r cynlluniau'n cael eu lansio ddydd Mercher yng nghwmni Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Edwina Hart AC.

Bydd y cwmni'n cyflwyno eu cynlluniau i'r rheoleiddiwr, Ofwat, ym mis Rhagfyr 2013.

Ymhlith y cynlluniau mae bwriad i osod 400 o gilometrau o bibellau yn lle hen rai yn ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd fel na fydd dros 550,000 o gwsmeriaid yn cael lliw ar eu dŵr, a gwella gweithfeydd trin dŵr sy'n gwasanaethu Llandudno a Bae Colwyn a Chymoedd Rhondda.

Cyflenwadau

Bydd piblinell yn cael ei chodi rhwng y de-ddwyrain a'r de-orllewin i sicrhau cyflenwadau mwy dibynadwy i bobl ac i warchod ardaloedd a allai ddioddef o brinder dŵr yn ystod cyfnodau sych.

Dywedodd y cwmni eu bod am gynyddu swm yr ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu i 100GWh - sy'n cyfateb i'r ynni a ddefnyddir gan dref maint y Barri - fel nad oes angen i'r cwmni brynu cymaint o drydan.

Yn Wrecsam bydd arian yn cael ei wario ar waith ynni gwyrdd lle bydd "slwtsh," isgynnyrch y broses trin carthion, yn cael ei droi'n drydan.

Dau gynllun arall yw lleihau perygl llifogydd mewn dros 200 eiddo lle ceir perygl mawr ac ehangu rhaglen GlawLif er mwyn lleihau perygl llifogydd o garthffosydd wedi'u gorlewni.

'Sawl her'

Dywedodd y cyfarwyddwr cyllid gweithredol Chris Jones: "Mae'n hanfodol bod ein cwmni yn cynllunio ymlaen llaw.

"Ac mae sawl her yn ein hwynebu, yn cynnwys addasu'r busnes oherwydd newid yn yr hinsawdd, cyrraedd safonau amgylcheddol uwch, cynnal ein seilwaith a sicrhau y gallwn ddiwallu anghenion busnesau a phoblogaeth sy'n tyfu am ddegawdau i ddod.

"Er na allwn wneud popeth a bod yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau'r cydbwysedd cywir.

"Rydym am fuddsoddi er mwyn cynnal a gwella gwasanaethau ein cwsmeriaid domestig a busnes, a gwarchod yr amgylchedd, ond rhaid cadw'r biliau'n fforddiadwy a helpu ein cwsmeriaid mwyaf difreintiedig hefyd."

'Amser pwysig'

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart AC: "Mae hwn yn amser pwysig i'r diwydiant dŵr yng Nghymru ...

"Ac mae'n hanfodol bod ein gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yn cael eu rheoli yn gynaliadwy er mwyn sicrhau'r canlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gorau ar gyfer pobl Cymru ..."

Straeon perthnasol