Taro a ffoi: Dim achos llofruddio

Karina Menzies Image copyright Arall
Image caption Bu farw Karina Menzies ar Hydref 19, 2012.

Mae'r BBC yn deall na fydd dyn oedd yn rhan o achosion taro a ffoi pan gafodd mam ei lladd yn wynebu cyhuddiad o lofruddio.

Yn lle hynny bydd Matthew Trvdon yn cael ei ddedfrydu am ddynladdiad.

Mewn gwrandawiad 10 niwrnod yn ôl roedd wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Bu farw Karina Menzies, 31 oed, ac fe gafodd 13 o bobl eraill eu hanafu mewn cyfres o wrthdrawiadau yng Nghaerdydd ar Hydref 19, 2012.

32 o gyhuddiadau

Roedd y diffynnydd yn wynebu cyfanswm o 32 o gyhuddiadau, gan gynnwys bwriadu achosi niwed corfforol a bwriadu achosi niwed corfforol difrifol.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Mr Trvdon yn diodde' o sgitsoffrenia paranoiaidd.

Ymddangosodd yn y llys ar gyswllt fideo o Ysbyty Ashworth yn Lerpwl.

Mae'r BBC yn deall na fydd yn wynebu cyhuddiad o lofruddio yn sgil ymgynghori rhwng Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r teulu.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ddydd Mercher.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.