Canwr yn gwadu treisio babi

Ian Watkins Image copyright Wales News Service
Image caption Gwadodd 23 o gyhuddiadau o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Mae canwr grŵp roc y Lost Prophets wedi ymddangos gerbron llys i wynebu cyhuddiadau rhyw, gan gynnwys dau gyhuddiad o dreisio babi.

Roedd Ian Watkins, 35 oed o Bontypridd, yn Llys y Goron Caerdydd ar gyswllt fideo a gwadodd 23 o gyhuddiadau o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Hefyd mae'n wynebu un cyhuddiad o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant yn ymwneud ag anifail.

Adfer enw da

Yn ddiweddarach cyhoeddodd Mr Watkins ddatganiad yn dweud y bydd yn parhau i frwydro i adfer ei enw da.

Roedd dwy fenyw gerbron y llys ac yn gwadu cyhuddiadau o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Mae'r cyhuddiadau yn deillio o droseddau honedig ddigwyddodd yn 2007.

Bydd y gwrandawiad nesaf yn achos y tri ddydd Iau.

Straeon perthnasol