Menyw'n marw wrth ddisgyn o glogwyn
- Cyhoeddwyd

Mae clogwyni a thraethau Mwnt yn boblogaidd gyda thwristiaid
Mae menyw wedi marw mewn digwyddiad ym Mwnt, Ceredigion brynhawn Gwener.
Deellir bod y fenyw wedi disgyn o glogwyn ac wedi marw o anafiadau difrifol.
Dywedodd yr heddlu nad oedd amgylchiadau'r farwolaeth yn amheus.
Bu'r heddlu, gwasanaeth tân, ambiwlans, hofrennydd yr awyrlu, badau achub a thimau gwylwyr y glannau yn bresennol ar y safle am dros saith awr.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys mewn datganiad: "Derbyniodd yr heddlu alwad am tua 1:15pm ddydd Gwener yn gofyn am gymorth ym Mwnt.
"Roedd menyw wedi cwympo o ymyl clogwyn ac wedi disgyn cryn bellter.
"Roedd ein partneriaid o'r gwasanaethau brys eraill yn bresennol.
"Yn anffodus cafodd y fenyw anafiadau angheuol. Does dim amgylchiadau amheus i'r digwyddiad."