Apêl am ferch sydd ar goll
- Cyhoeddwyd

Mae heddlu sy'n chwilio am Georgia Williams yn ymchwilio i adroddiadau bod fan sydd wedi ei gysylltu â'i diflaniad wedi ei weld yng ngogledd Cymru.
Fe aeth Ms Williams, 17 o Wellington yn Sir Amwythig, ar goll nos Sul.
Cafodd dyn o Wellington ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Glasgow ddydd Mawrth ac mae'n cael ei holi gan yr heddlu ar hyn o bryd.
Mae'r heddlu yn gofyn i fusnesau a siopau yn ardal Wrecsam a Glannau Dyfrdwy i edrych ar eu ffilm teledu cylch cyfyng ar gyfer nos Lun.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i glywed gan unrhywun sydd wedi gweld y fan lwyd.
Cafodd y 22 oed sy'n cael ei holi ynglŷn â'i diflaniad - wedi cael ei enwi'n lleol fel Jamie Reynolds.
Cafodd apêl ei wneud ar raglen Crimewatch y BBC nos Iau i unrhywun sydd wedi gweld y fan gysylltu gyda'r heddlu.
Toyota Hiace 300 GS arian yw'r fan gyda'r rhif cofrestru CV06 ASV.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Rydym wedi cael nifer o alwadau yn dilyn y rhaglen Crimewatch gan gynnwys nifer oedd wedi gweld y fan yn ardal Wrecsam a Chaer ac ar hyn o bryd mae'r tîm ymchwilio yn ystyried y rhain.
"Trafeiliodd y fan tua 20 milltir yn unig mewn cyfnod o bum awr ar nos Lun. Rydym yn parhau i fod â diddordeb yn y cyfnod hwnnw ac rydym yn dal i annog busnesau i ddod ymlaen os oes ganddynt unrhyw luniau CCTV ohono."
Y gred yw fod y fan wedi gadael Wellington tua hanner dydd ar ddydd Llun, cyn teithio i Groesoswallt, Y Rhyl, Caer a Kendal.
Fe gyrhaeddodd Glasgow tua hanner dydd ar ddydd Mawrth.