Daeargryn yn taro'r gogledd

Map of tremor
Image caption Fe darodd y daeargryn am 4:16am fore Mercher

Fe deimlodd rhannau helaeth o'r gogledd y tir yn crynu fore Mercher wrth i ddaeargryn daro ger arfordir Llŷn.

Dywedodd swyddfa'r BGS (British Geolological Survey) bod daeargryn yn mesur 3.8 ar raddfa Richter daro ger Porth Colmon.

Cafodd nifer o bobl yng Ngwynedd ac Ynys Môn eu deffro gan y daeargryn a darodd am tua 4:15am.

Teimlwyd y daeargryn mor bell i fwrdd a'r Rhyl yn Sir Ddinbych a Dulyn yn Iwerddon.

Dywedodd rhai a deimlodd y daeargryn eu bod wedi cael eu deffro gan adeiladau'n ysgwyd a sŵn rymblan isel.

Roedd gwefan Twitter yn llawn sylwadau yn gynnar y bore gan bobl o Benisa'r-waun, Waunfawr, Blaenau Ffestiniog a Llynfaes.

Cafodd ei deimlo hefyd mor bell i'r dwyrain â Southport ar Lannau Mersi.

Dywedodd y BGS bod canolbwynt daeargryn ddydd Mercher ychydig filltiroedd o'r un darodd yng Ngorffennaf 1984 oedd yn mesur 5.4 ar raddfa Richter - y daeargryn mwyaf i daro ynysoedd Prydain yn y 200 mlynedd diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y BGS: "Roedd hwn yn fwy na'r daeargrynfeydd arferol.

"Dim ond tua unwaith y flwyddyn yr ydym yn cael daeargryn o'r maint yma.

"Mae pobl wedi dweud iddyn nhw glywed sŵn mawr i ddechrau, gyda rymblan isel ac ysgwyd sylweddol yn dilyn."

Straeon perthnasol