Cyhuddo dau o beryglu awyren
- Cyhoeddwyd

Mae dau wedi eu cyhuddo o beryglu awyren wedi i awyren o Bacistan i Fanceinion orfod glanio yn Stansted ddydd Gwener.
Bydd y ddau, sy' â phasborts Prydeinig, yn Llys Ynadon Chelmsford ddydd Llun.
Y ddau yw Tayyab Subhani, 30 oed, a Mohammed Safdar, 41 oed, o Nelson, Sir Gaerhirfryn.
Aeth yr heddlu ar fwrdd yr awyren Pakistan International Airlines (PIA) rhif PK709 pan laniodd ym Maes Awyr Stansted.
Gadawodd yr awyren ddinas Lahore ac roedd i fod i lanio ym Manceinion am 2:00pm ddydd Gwener.
Bygythiadau
Yn ôl Gohebydd Amddiffyn y BBC, Jonathan Beale, roedd awgrymiadau fod bygythiadau ar fwrdd yr awyren, rhyw fath o arf neu fom, ond nid yw hyn wedi cael ei gadarnhau.
Ond mae un teithiwr wedi dweud wrth y BBC fod y peilot wedi dweud wrth y teithwyr fod bygythiadau wedi cael eu gwneud.
Dywedodd teithiwr arall fod dau ddyn wedi ceisio fwy nag unwaith sicrhau mynediad i gaban y peilot.
Yn ôl PIA, roedd 308 o bobl ar fwrdd yr awyren, ynghyd â 14 aelod o'r criw.