Jill Evans ar frig y rhestr

Jill Evans Image copyright Arall
Image caption Jill Evans: Yn ASE ers 1999

Yr ASE Jill Evans sy' ar frig rhestr ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer etholiadau Ewrop yn 2014.

Ers 1999 mae Ms Evans, 54 oed o'r Rhondda, wedi bod yn ASE.

Hi oedd ar frig y rhestr o flaen Marc Jones, Stephen Cornelius, Ioan Bellin a Gwynfor Owen.

Y rhai sy'n cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop yw Kay Swinburne o'r Ceidwadwyr, Derek Vaughan o'r Blaid Lafur, Ms Evans a John Bufton o UKIP sy' wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll eto.

"Dyw Senedd Ewrop ddim yn berffaith ac mae angen ei diwygio," meddai Ms Evans.

"Eto rhaid cofio bod yr arian y mae Cymru yn ei dderbyn o Ewrop yn fwy na'r hyn y mae Ewrop yn ei dderbyn oddi wrthym ni."

Straeon perthnasol