Taro'r creigiau: Achub 48 o deithwyr
- Cyhoeddwyd

Roedd y Lady Helen yn cario 48 o deithwyr
Mae 48 o deithwyr, gan gynnwys plant, wedi cael eu hachub wedi i fad daro'r creigiau oddi ar arfordir Sir Benfro.
Chafodd neb ei anafu.
Roedd y Lady Helen yn hwylio i Ynys Sgomer.
Ar ôl i'r criw anfon neges rhybudd cyrhaeddodd nifer o fadau, gan gynnwys ei chwaerlong y Dale Princess.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau, gafodd alwad am 12.55pm, fod "y teithwyr i gyd wedi cyrraedd y lan ac yn ddiogel".
Roedd badau achub Angle a Thyddewi a hofrennydd Sea King o ganolfan yr Awyrlu yn Chivenor, Dyfnaint, yn rhan o'r ymgyrch.
"Mae pawb wedi ymateb yn ardderchog," meddai Barrie Yelland, rheolwr y shifft yn Aberdaugleddau.