Caerdydd: Tan i werthu cyfranddaliadau?
- Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd Clwb Peldroed Caerdydd Vincent Tan yn ystyried gwerthu cyfranddaliadau yn y clwb, yn ôl adroddiadau.
Byddai hynny'n golygu y byddai'r clwb yn cael ei restru ar y gyfnewidfa stoc - o bosib yr un yn Kuala Lumpur.
Gallai hyn godi arian tuag at redeg y clwb, fel y gwnaeth Manchester United pan roddodd y perchnogion, y teulu Glazer, y cwmni ar y farchnad nôl yn 2012.
Gwerthwyd 10% o'r clwb o Fanceinion mewn 'cynnig cyhoeddus cychwynnol', a credir bod hyn wedi codi £150m i'r perchnogion.
Proses yw cynnig cyhoeddus cychwynnol pan mae cyfranddaliadau'n cael eu gwerthu i aelodau o'r cyhoedd am y tro cyntaf.
Mae adroddiadau yn awgrymu mai dyma mae Mr Tan yn cynllunio ei wneud. Mae ei glwb wrthi'n paratoi i gystadlu yn Uwch Gynghrair Lloegr yn dilyn tymor llwyddiannus yn y Bencampwriaeth.
Dywedodd Mr Tan eisoes ei fod yn bwriadu gwario £25m ar chwaraewyr er mwyn ceisio sicrhau llwyddiant Caerdydd y tymor nesaf.
Straeon perthnasol
- 16 Ebrill 2013
- 16 Ebrill 2013
- 17 Ebrill 2013
- 9 Mai 2012
- 9 Mai 2012