Siwrne olaf i fad achub sydd wedi bod wrthi ers 25 mlynedd

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, RNLI
disgrifiad o’r llunMae'r bad Robert and Violet yn mynd i gael ei ddefnyddio i achub bywydau yn Iwerddon.

Mi aeth bad achub hynaf Prydain ar ei thaith olaf yng ngogledd Cymru ddydd Gwener.

Mae Robert & Violet wedi bod yn achub pobl o arfordir Ynys Môn ers chwarter canrif a daeth yr amser i fad modern ei ddisodli.

Ond fe fydd y bad yn dal i gael ei defnyddio gan wylwyr y glannau yn Iwerddon.

Mae dau o'r hen griw yn mynd i fod yn y digwyddiad ym mhentref Moelfre er mwyn dweud ffarwel sef yr ail lywiwr Tony Dennis a'r peiriannydd cynorthwyol John Payne.

Roedden nhw ar ei bwrdd hi wrth iddi hwylio o Poole yn Dorset i Sir Fôn a hynny 25 mlynedd yn ôl.

Hanes

Fe ddaeth y bad i'r pentref yn 1988 gyda'r dechnoleg fwyaf modern ar y pryd. Roedd hi'n costio £532,057 ac fe gafodd y swm ei rhoi gan roddwr anhysbys.

Dros y blynyddoedd mae hi wedi bod ar 392 o deithiau gan fynd i nôl 419 o bobl oedd mewn trafferthion ac achub bywydau 92 unigolyn.

Mae gwirfoddolwyr wedi cael hyfforddiant er mwyn defnyddio'r bad achub newydd erbyn hyn.

ffynhonnell y llun, RNLI
disgrifiad o’r llunMae'r bad achub newydd yn gyflymach

Tristwch

Wrth gydnabod ei bod hi'n drist bod Robert & Violet yn gadael Moelfre, mae'r Rheolwr Rod Pace yn dweud bod hi'n bwysig edrych i'r dyfodol:

"Fe fydd hi'n hyfryd i weld aelodau o'r hen griw sydd wedi ymddeol eto ac mi fydd e yn brofiad emosiynol i ni gyd sydd wedi ymwneud gyda hi am gyfnod mor hir.

"Rydyn ni yn gobeithio'r gorau iddi hi a'r criw o wirfoddolwyr newydd."

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol