Cynhadledd i drafod pwysigrwydd yr Undeb Ewropeaidd i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae cynhadledd yn cael ei chynnal ddydd Gwener i drafod pwysigrwydd yr Undeb Ewropeaidd i Gymru.
Mae'r diwrnod wedi ei drefnu ar y cyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a'r Academi Brydeinig ac yn cael ei gefnogi gan Brifysgol Caerdydd.
Yn ystod y sesiwn bydd cynrychiolwyr o wledydd o fewn Ewrop sydd wedi eu datganoli sef Cymru, Catalonia, Llydaw a Fflandrys yn trafod eu profiadau o fod yn rhan o'r undeb a phwysigrwydd hynny iddyn nhw.
Hywel Ceri Jones, cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, fydd yn cadeirio'r drafodaeth a bydd yn siarad am yr hyn y mae Cymru yn chwilio amdano wrth ddatblygu perthynas gyda chenedl arall.
Dywedodd yr Athro Alistair Cole o Brifysgol Caerdydd y bydd y digwyddiad yn gyfle i ofyn beth yw'r gwersi y gall Cymru ddysgu oddi wrth ranbarthau Ewropeaidd eraill. Mae'n dweud hefyd mai nawr yw'r amser i ystyried y cyfleoedd sydd ar gael i Gymru o fewn cyd-destun ehangach Ewrop.
Mae'n dweud y bydd y drafodaeth yn codi'r cwestiwn ynghylch y llwybr cyfansoddiadol sydd yn wynebu Cymru fel gwlad sydd wedi ei datganoli o fewn fframwaith y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Wrth groesawu'r gynhadledd, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Rwy'n falch iawn o groesawu'r gynhadledd arwyddocaol hon i Gymru. Mae rhanbarthau a chenhedloedd yn hanfodol i einioes yr Undeb Ewropeaidd ac rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn i ni feddwl yn greadigol am ein dyfodol Ewropeaidd.
"Mae'r llywodraeth rwy'n ei harwain yn ymrwymedig i aelodaeth barhaus y DU o'r Undeb Ewropeaidd a fydda' i byth yn colli cyfle i ddadlau'r achos dros hynny. Mae Cymru'n rhan lawn a chreiddiol o'r gymuned o genhedloedd Ewropeaidd a fy mwriad i yw ein bod yn parhau i chwarae rhan lawn a gweithgar.
"Rwy'n dymuno'n dda i'r gynhadledd."
Mae'r gynhadledd yn cael ei gynnal yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Straeon perthnasol
- 16 Mai 2013
- 15 Mai 2013
- 1 Mai 2013
- 26 Mawrth 2013