Dy iaith ar ein hysgwyddau megis pwn

Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC

Cyhoeddwyd
comments
Comments

"Gormod o ddim nid yw'n dda" meddai nhw, ond ydy hynny'n wir am lyfrau? Nid oes modd cael gormodedd yn y maes hwnnw yn fy marn i. Mae fy mhartner yn gweld pethau'n wahanol. Dros y Sul felly roedd hi'n bryd am y "sort out" blynyddol. Tair tomen felly. Cadw, llofft ac Oxfam.

Mae'r broses yn cymryd oesau - yn bennaf oherwydd bod rhywun yn cael ei demtio i ddarllen rhyw gyfrol neu'i gilydd na chafodd sylw ers blynyddau. Dyna ddigwyddodd y tro yma wrth i gyfrol clawr meddal o'r chwedegau denu fy sylw.

"The Dragon's Tongue" gan yr awdur a'r hanesydd Gerald Morgan oedd y llyfr. Fel mae'r teitl yn awgrymu cyfrol ynghylch dyfodol y Gymraeg yw hi. Fe'i cyhoeddwyd yn Hydref 1966 cyfnod diddorol iawn yn hanes yr iaith - pedair blynedd wedi "Tynged yr Iaith", tair blynedd wedi protest pont Trefechan a misoedd yn unig ar ôl isetholiad Caerfyrddin.

Nid y digwyddiadau hynny oedd yn denu sylw Gerald Morgan yn bennaf. Gofyn oedd modd i'r Gymraeg oroesi yn sgil diflaniad y Cymry uniaith olaf oedd yr awdur.

Prin iawn oedd y rheiny yn ôl cyfrifiad 1961 ac erbyn i'r cwestiwn cael ei ofyn am y tro olaf yn 1971 yn y crud ac yng nghymylau dementia yn unig yr oedd canfod Cymry Cymraeg nad oeddynt yn medru'r Saesneg.

Doedd Gerald ddim yn obeithiol. Doedd e ddim yn disgwyl i'r iaith farw ond roedd ei broffwydoliaeth yn un ddigon tywyll.

"Until our civilisation is altered beyond any kind of recognition there will always be people learning Welsh, studying Welsh and teaching Welsh. Such Welsh will be aquarium Welsh, not living Welsh... the worst that can happen is the survival of Welsh scholarship, and several thousand Welsh speakers who choose to maintain the language by permanent artificial respiration."

Roedd Gerald hefyd yn rhagweld ambell i ddyfodol posib arall. Dyma'r mwyaf optimistaidd ohonyn nhw.

"The last condition is perhaps the most unlikely of all. It is that the Welsh speaking people should make that conscious decision now; that without violence and with firmness, they are not going to be pushed back any further. Such a determination could secure that there will be a fairly stable block of perhaps 200,000 people at the beginning of the next century"

Prin mae'n debyg yw caredigion y Gymraeg nad ydynt yn teimlo'n isel eu hysbryd ar adegau gan ofyn pam na allant ddianc rhag hon neu paham y rhoddwyd iddynt y tristwch hwn.

Ond sylwer, ni fu'r holl waith a'r cwffio'n ofer. Rydym mewn sefyllfa ychydig yn well na phroffwydoliaeth fwyaf optimistaidd Gerald Morgan. Beth fyddai sefyllfa'r Gymraeg pe na bai'r ymdrech wedi ei wneud?

Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi ei "Chynhadledd fawr" ynghylch dyfodol y Gymraeg efallai taw diwedd soned Gwenallt sy'n berthnasol i ni heddiw nid y llinell gyntaf.

"Dy ryddid gynt sydd gleddyf yn ein llaw A'th urddas sydd yn astalch ar ein bron A chydiwn yn ein gwayw a gyrru'r meirch Rhag cywilyddio'r tadau yn eu heirch."