Pontypridd yn cipio'r dwbwl

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Simon Humberstone yn sgorio cais i Bontypridd

Pontypridd 47-15 Llanelli

Mae clwb rygbi Pontypridd wedi sicrhau'r dwbwl am y tro cyntaf ar ôl curo Llanelli yn rownd derfynol Uwchgynghrair y Principality.

Daw'r fuddugoliaeth wedi i Bontypridd ennill Cwpan Swalec gyda buddugoliaeth o 34-13 dros Gastell-nedd, ac roedden nhw'n feistri corn ar Lanelli ar Heol Sardis.

Roedd Ponty 30-3 ar y blaen ar yr egwyl gyda cheisiau gan Chris Dicomidis, Simon Humberstone a Rhys Shellard, gyda Matthew Nuthall a Darran Harris hefyd yn sgorio.

Fe gafodd Kristian Phillips a Nic Reynolds geisiau cysur dros Llanelli.

Mae'r ddau glwb wedi cwrdd bedair gwaith y tymor hwn gyda Phontypridd yn fuddugol bob tro - dwy waith yn y tymor arferol yn yr Uwchgynghrair, unwaith mewn gêm yng Nghwpan Swalec a nawr yn y rownd derfynol.

Yn 2011, Llanelli gipiodd y bencampwriaeth gyda buddugoliaeth dros Bontypridd yn y rownd derfynol, ond daeth Ponty yn ôl i ddial y llynedd ac maen nhw wedi cadw'u teitl eleni.

Timau:

Pontypridd: Adam Thomas; Owen Williams, Gavin Dacey, Dafydd Lockyer, Matthew Nuthall; Simon Humberstone, Lloyd Williams; Stuart Williams, Huw Dowden, Kieron Jenkins, Craig Locke, Chris Dicomidis (capten), Ed Siggery, Rhys Shellard, Dan Godfrey.

Eilyddion: Joel Raikes, Dai Flanagan, Gareth Wyatt, Darran Harris, Wayne O'Connor, Cory Hill, Chris Phillips, Scott Roberts.

Llanelli: Dion Jones; Kristian Phillips, Nic Reynolds, Chris Keenan, Dale Ford; Jordan Williams, Gareth Davies; Rhys Thomas, Kirby Myhill, Simon Gardiner, Adam Powell (capten), Jake Ball, Lewis Rawlins, Dan Thomas, Craig Price.

Eilyddion: Tom Sloane, Craig Hawkins, Duane Eager, Stuart Leach, Justin James, Johnny Lewis, Steffan Hughes, Peter Edwards.