Lladrad: Heddlu'n arestio dyn lleol

Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi arestio dyn mewn perthynas â lladrad ym Mhenygroes ddydd Gwener.

Aeth rhywun i mewn i siop bwci yn y pentref yn cario bat pêl-fâs gan fygwth staff cyn dianc gyda swm o arian.

Ddydd Sadwrn dywedodd yr heddlu eu bod wedi arestio dyn lleol 42 oed mewn perthynas â'r digwyddiad.

Chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.

Straeon perthnasol