Grant o £1.6m i brifysgol
- Cyhoeddwyd

Bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn ceisio ateb cwestiwn syml sydd ag ateb cymhleth: pam bod y bydysawd yn bodoli?
Mae'r brifysgol wedi derbyn grant o £1.6m er mwyn ymchwilio i'r hyn sy'n cael ei alw'n wrthfater.
Pan mae mater a gwrthfater yn gwrthdaro maen nhw'n dinistrio'i gilydd gan ryddhau llawer o ynni.
'Cyfartal'
Dyw gwyddonwyr ddim eto'n deall sut mae'n bosib i'r bydysawd fodoli gan fod y ddamcaniaeth bresennol yn dweud bod angen yr un faint o fater a gwrthfater wrth i'r bydysawd gael ei greu.
Dywedodd Dr Niels Madsen fydd yn arwain yr ymchwil: "Mae synnwyr yn dweud bod mater a gwrthfater mewn symiau cyfartal sy'n golygu y dylai'r bydysawd fod wedi dinistrio ei hun ar unwaith, gan adael dim ar ôl heblaw ynni ar ffurf golau.
"Ond yn ffodus i ni, mae'n ymddangos bod y bydysawd wedi cael ei wneud bron yn llwyr o fater gyda dim ond ychydig bach o wrthfater ...."
Dywedodd ei bod hi'n rhy gynnar i wybod pa dechnoleg allai gael ei datblygu yn sgil unrhyw ddarganfyddiadau newydd.
Straeon perthnasol
- 9 Mai 2013
- 21 Mawrth 2013
- 26 Chwefror 2013