Ail-gyflwyno afancod i Geredigion

Afanc
Image caption Roedd afancod yn arfer byw yng Nghymru gannoedd o flynyddoedd yn ôl

Mae Afon Rheidiol yng Ngheredigion wedi ei ddewis fel safle ar gyfer ail-gyflwyno afancod.

Nid yw'r anifail wedi bod yn byw yng Nghymru ers cannoedd o flynyddoedd wedi iddyn nhw gael eu gor-hela.

Roedd galw'n arfer bod am eu cig, eu ffwr a hyd yn oed eu chwarennau arogl, ond mae Prosiect Afancod Cymru'n credu bod yr amser wedi dod i ddod a nhw 'nol i Gymru.

Dywedodd Adrian Lloyd Jones, gydlynwyr y prosiect, bod chwe safle wedi cael eu hystyried ar gyfer ail-gyflwyno'r afanc ond mai Afon Rheidiol oedd "y mwyaf addas".

"Dydw i ddim yn rhagweld unrhyw broblemau ond os oes rhai'n codi mae safleoedd eraill hefyd yn addas," meddai Mr Jones.

"Os yw popeth yn mynd yn iawn fe fyddem ni'n eu rhyddhau'r adeg yma flwyddyn nesaf."

Ecosystem

Mae'r cynlluniau yn dilyn ymchwil sydd wedi cael ei wneud dros gyfnod o bum mlynedd.

Mae Prosiect Afancod Cymru'n honni y bydd yr afancod yn "cyfrannu'n sylweddol tuag at fioamrywiaeth".

Yn ôl y mudiad: "Mae ailgyflwyno afancod i Gymru'n cael ei ystyried yn briodol oherwydd bod afancod yn perfformio gwaith sydd o fudd i'r ecosystem.

"Maen nhw'n rheoli corsydd, yn helpu i lanhau a rheoli adnoddau dŵr, yn ogystal â hybu twristiaeth ac economïau lleol."

Ond nid yw pawb mor awyddus i weld yr anifeiliaid yn dychwelyd.

Mae Bernard Llywellyn, cadeirydd bwrdd materion gwledig undeb amaeth yr NFU yn poeni bod yr effaith y gallai'r creaduriaid gael ddim yn glir.

"Mae tystiolaeth bod dinistr mawr wedi cael ei wneud yn Ewrop yn enwedig ond y gwir ydi 'dy ni ddim yn gwybod pa broblemau allai godi," meddai Mr Llywellyn.

"'Dydw i ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth y byddan nhw yn cyfrannu unrhyw beth at yr ecosystem.

"Dydi hanes cyflwyno mamaliaid i ardaloedd penodol ddim yn un arbennig o dda."