Pleidlais ar Ewrop yn San Steffan

  • Cyhoeddwyd
Fflag Ewropeaidd
Disgrifiad o’r llun,
Mae rhai aelodau Ceidwadol eisiau cynnal refferendwm cyn 2015

Bydd pleidlais yn cael ei chynnal yn hwyrach ar welliant sydd yn beirniadu araith y Frenhines am beidio cynnwys ymrwymiad i refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i bedwar Aelod Seneddol o Gymru bleidleisio o blaid y gwelliant sef Simon Hart, David Davies, Guto Bebb ac Alun Cairns.

Mae tua 100 o Aelodau Seneddol Ceidwadol eisoes wedi dweud y byddan nhw'n pleidleisio o blaid y gwelliant neu yn ymatal o'r bleidlais.

Ers i'r gwelliant gael ei lunio mae'r Blaid Geidwadol wedi cyflwyno mesur drafft er mwyn deddfu i gynnal refferendwm erbyn 2017.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron mai ei blaid ef yw'r unig un sy'n cynnig "dewis clir" ynglŷn â dyfodol Prydain yn Ewrop.

Mae Mr Cameron eisiau ceisio sicrhau cytundeb newydd ar berthynas y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd cyn i refferendwm gael ei gynnal - ond mae rhai o'r Ceidwadwyr eisiau i refferendwm gael ei gynnal cyn hynny.

Nid oes disgwyl i'r gwelliant lwyddo gan y bod mwyafrif, sy'n cynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur a Cheidwadwyr sydd o blaid Ewrop, yn bwriadu pleidleisio yn ei erbyn.

Ond y gred yw y byddai pleidlais fawr o blaid yn creu sefyllfa anodd i David Cameron.

'O ddifrif'

Ar ddydd Mawrth dywedodd AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro Simon Hart wrth BBC Cymru bod y gwelliant "yn ein galluogi i roi rhywbeth yn y dyddiadur, mae'n golygu ein bod yn mynd i gael ymrwymiadau cadarn iawn".

"Fel arall, gallaf ddeall pan fyddai pobl yn dweud 'wel, chi'n gwybod, yw'n nhw'n mynd i'w wneud e? Mae 2018 yn ymddangos yn bell i ffwrdd'.

"Bydd hyn yn wir yn ei gwneud yn glir ein bod o ddifrif am hyn - bydd refferendwm yn cael ei gynnal.

"Hwn fydd y cyfle cyntaf mewn 40 mlynedd i bobl fynegi barn ynghylch ac os dylem ni aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd neu beidio, rydym go iawn am wneud i hyn ddigwydd."

'Budd gorau Cymru'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei fod yn poeni bod araith y Frenhines wedi cael ei "feiddianu" gan y mater Ewropeaidd "pan mae pobl yn poeni am eu swyddi, am yr economi, pan mae pobl angen tô uwch eu pennau".

Yn ystod cwestiynau i'r prif weinidog cyhuddodd y Blaid Geidwadol o gael eu heintio gan "genedlaetholdeb anhygoel o gul" Ukip.

Dywedodd Mr Jones bod y gwrthwynebiad cynyddol i'r Undeb Ewropeaidd o fewn y Blaid Geidwadol "yn sicr ddim o fudd i Gymru, gan ein bod yn elwa o £144m y flwyddyn o fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd".

"Mae unrhywun sy'n awgrymu y dylai Cymru adael yr UE yn gweithredu yn erbyn budd gorau Cymru gan y byddem ar ein colled - ac rydym yn gwybod na fyddem yn cael yr arian yn ôl gan llywodraeth y Deyrnas Unedig".

"Byddai hefyd yn golygu y byddai'r £350 miliwn y flwyddyn y mae ffermwyr Cymru yn ei gael yn diflannu ac y byddai ffermio yng Nghymru'n dod i ben. Dyna'r diwedd, dim cwestiwn," ychwanegodd Mr Jones.

Ukip

Mae'r ddadl dros yr Undeb Ewropeaidd yn dod ar adeg pan mae Ukip - plaid gafodd ei sefydlu er mwyn ceisio tynnu Prydain allan o Ewrop - yn gwneud yn dda iawn.

Ond mae llawer o aelodau Ceidwadol eisoes yn flin bod Llywodraeth Prydain heb ymrwymo i gynnal refferendwm cyn 2015.

Mae gohebydd Seneddol y BBC Mark D'Arcy wedi cwestiynu os bydd rhai ASau mewn etholaethau lle mae Ukip yn gwneud yn dda yn pleidleisio o blaid y gwelliant er mwyn ceisio atal Ukip.

Dywedodd Mr D'Arcy: "A fydd yna gysylltiad rhwng cynnydd Ukip yn yr etholiadau cynghorau a rhai Torïaid yn sydyn yn darganfod eu bod yn amheus o Ewrop?"