Bala 4-2 Bangor
- Cyhoeddwyd

Bala 4-2 Bangor
Bala oedd y tîm buddugol yng ngêm ail gyfle Uwchgynghrair Cymru brynhawn Sadwrn.
Mae hynny yn golygu maen nhw fydd yn mynd ymlaen i herio Port Talbot er mwyn ceisio sicrhau lle yng Nghwpan Europa'r tymor nesaf.
Stuart Jones gafodd y gôl gyntaf i'r ymwelwyr a hynny ar ôl 29 munud.
Fe ddaeth yr ail doc wedi hynny gan Mark Jones a cyn yr hanner amser fe sgoriodd Ian Sheridan i'r Bala.
Doedd pethau ddim yn edrych yn dda i Fangor wrth i'r blaenwr Ian Sheridan sgorio eto yn fuan ar ddechrau'r ail hanner.
Ond mi darodd y tîm cartref yn ôl ac roedden nhw'n dathlu wedi i Chris Jones gael gôl cyn yr awr.
Peter Hoy rhoddodd ail gol i Fangor ond erbyn hyn dim ond 10 munud oedd yn weddill o'r gêm ac mi roedd hi'n rhy hwyr.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol