Ceidwad y cledd yn ymddeol yng Nghaerfyrddin

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Selwyn Thomas / Carmarthen Town Council
Disgrifiad o’r llun, John Mattick yn cario'r cleddyf mewn achlysuron dinesig

Mae dyn sydd wedi bod yn cario cleddyf hanesyddol mewn achlysuron dinesig ers 59 o flynyddoedd yn gwneud hynny am y tro olaf nos Wener.

1954 oedd y tro cyntaf i John Mattick, sydd yn 77 oed, ddal y cleddyf yn ei ddwylo ond mae'r traddodiad yn dyddio nôl i'r 16eg ganrif.

Caerfyrddin yw'r unig dref yng Nghymru sydd, drwy Siarter Frenhinol â chleddyf i'w chludo o flaen y maer.

Cafodd y cleddyf ei rhoi gan Harri VIII am ei fod eisiau dangos ei werthfawrogiad o'r dref.

Dyw hi ddim yn glir pam ei fod yn ddiolchgar ond credir bod Caerfyrddin wedi rhoi arian neu filwyr iddo.

Y pwysau

Mae'r Siarter Frenhinol yn golygu bod yn rhaid i'r cleddyf gael ei gario o flaen Maer y dref mewn seremonïau swyddogol.

15kg yw pwysau'r cleddyf ac mae John Mattick yn cydnabod bod hynny ddim yn ysgafn!

"Mae e yn beth trwm i'w gario a dyna'r prif reswm pam fy mod i yn rhoi'r gorau iddi gan ystyried fy oedran.

Ond mae'r pwysau cleddyf yn atgoffa person o gyfrifoldeb y dyletswyddau.

Mae llawer o bobl yn gwawdio'r dyddiau yma a dweud mai dim ond pantomeim yw e o'r gorffennol.

Ond mi ydyn ni yn cofio gyda'r traddodiad yma am y bobl a'r digwyddiadau fuodd.

Chi yn gafael mewn darn o hanes."

Amddiffyn y maer

Ganrifoedd yn ôl roedd gan y cleddyf bwrpas ymarferol meddai Mr Mattick.

Roedd y maer angen ei warchod yn ôl yn yr 16eg ganrif.

Byddai unrhyw berson gyda'r bwriad o ymosod ar y maer fodd bynnag yn meddwl dwywaith wrth weld dyn yn cario'r cleddyf o'i flaen.

Nos Wener yn ystod cyfarfod i sefydlu'r maer newydd bydd y gŵr yn gwneud fel y gwnaeth ei dad ef ac yn pasio'r cleddyf ymlaen i'w fab.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol