Cerbydau milwrol: Colli 185 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni'n cynhyrchu cerbydau milwrol
Yn y Deyrnas Gyfunol mae 185 o swyddi'n diflannu mewn cwmni sy'n cynhyrchu cerbydau milwrol.
Mae General Dynamics yn cyflogi 800 yn Oakdale a Threcelyn, tua hanner y gweithlu.
Ond nid oes manylion a fydd y toriadau'n effeithio ar y ddau safle.
Dywedodd y cwmni o'r Unol Daleithiau fod angen diswyddiadau gorfodol yn ogystal â rhai gwirfoddol.
"Mae'r farchnad yn heriol," meddai llefarydd, "ond rydym yn llwyddo i gyflawni ein cytundebau."
Straeon perthnasol
- 15 Mai 2012
- 22 Mawrth 2010