Tystiolaeth am ddiflaniad April Jones
- Cyhoeddwyd

Bydd achos y dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones yn clywed gan dystion am y noson y diflannodd hi.
Mae Mark Bridger, 47, o Geinws ger Machynlleth, yn gwadu cipio a llofruddio April, a ddiflannodd ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1 y llynedd.
Ddydd Mercher mae disgwyl i Lys y Goron Yr Wyddgrug glywed tystiolaeth y plismon cyntaf i gyrraedd wedi i'r ferch bump oed ddiflannu.
Bydd dau o drigolion stad Bryn-y-Gog lle'r oedd April yn byw hefyd yn rhoi tystiolaeth.
Ddydd Mawrth clywodd y llys gyfweliad heddlu a thystiolaeth gan un o ffrindiau April oedd yn chwarae gyda hi pan aeth ar goll.
Dywedodd y ferch saith oed wrth yr heddlu bod gan April "wyneb hapus" wrth iddi fynd i mewn i gerbyd.
Dywedodd hefyd bod dyn wedi dod allan o gerbyd Land Rover a bod April wedi mynd i mewn cyn iddo yrru i ffwrdd.
Yn ei gyfweliad yntau gyda'r heddlu, dywedodd y diffynnydd ei fod wedi taro April gyda'r car yn ddamweiniol ac wedi mynd i banig.
Awgrymodd ei fargyfreithiwr Brendan Kelly QC bod y diffynnydd wedi cario April i mewn i'r cerbyd.
Arweiniodd diflaniad April Jones at yr ymgyrch chwilio fwyaf yn hanes yr heddlu yn y DU.
Mae Mr Bridger yn gwadu'r cyhuddiadau o gipio a llofruddio, a chyhuddiad arall o fwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Straeon perthnasol
- 7 Mai 2013
- 3 Mai 2013
- 2 Mai 2013
- 1 Mai 2013
- 1 Mai 2013